Band Eang Gwell Yn Sir Benfro

1. Y rheswm dros gasglu a chadw eich gwybodaeth bersonol?

Rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol er mwyn eich cynnwys yng Nghynllun Ymgysylltu â Band Eang Cyngor Sir Penfro, er mwyn eich cynorthwyo, ac er mwyn gweithio ar eich rhan gyda chyflenwyr i wella eich cysylltiad band eang.

Rydym yn Prosesu eich data oherwydd:

• Rydych wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny.

2. Sut caiff y Wybodaeth amdanoch chi ei defnyddio?

Bydd yr wybodaeth a roddir yn cael ei phrosesu’n ôl y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) (2016) a’r Ddeddf Diogelu Data (2018).

Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu’r arian cyhoeddus a weinyddwn ac efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a roddwyd gennych ar y ffurflen hon, er enghraifft, i baru data neu i ganfod ac atal twyll. Efallai y byddwn yn croeswirio’r wybodaeth gyda chyrff neu sefydliadau perthnasol eraill, neu gydag adrannau yng Nghyngor Sir Penfro a Chynghorau eraill.

Hefyd, byddwn yn datgelu popeth y mae’n ofynnol ei ddatgelu’n ôl y gyfraith, ac efallai y byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am ganfod/atal twyll neu archwilio/gweinyddu arian cyhoeddus er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dargedu a’i wario yn y ffordd fwyaf priodol a mwyaf cost effeithiol. Er mwyn gwneud hyn, efallai y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gydag adrannau mewnol eraill yng Nghyngor Sir Penfro a chydag Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Bydd rhan o’r cynllun hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Sir Penfro drosglwyddo eich manylion a gweithio gyda darparwyr rhyngrwyd er mwyn parhau â’r cynllun hwn a hwyluso cysylltiad band eang.

Ni fyddwn yn datgelu unrhyw beth i drydydd partïon at ddibenion marchnata, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny.

Bydd eich data’n cael ei gadw’n ddiogel ac yn gyfrinachol bob amser, a dim ond yr wybodaeth bersonol sy’n angenrheidiol wrth ddarparu ein gwasanaeth i chi y byddwn yn ei chasglu.

3. Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw’r wybodaeth a roddwyd gennych trwy gydol oes y cynllun, sef hyd at bum mlynedd, a bydd eich gwybodaeth yn cael ei gwaredu’n ddiogel pan na fydd Cyngor Sir Penfro ei hangen mwyach.

4. Mynediad at fy ngwybodaeth bersonol?

Gallwch ganfod a ydym yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch trwy gyflwyno cais am fynediad at ddata gan y testun dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2016). I wneud cais am unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, cysylltwch â’r canlynol:

Y Tîm Mynediad at Gofnodion
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP

E-bost: accesstorecords@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 775798/6696

5. Eich Hawliau

Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (2016), mae gennych hawliau fel unigolyn y gallwch eu harfer mewn perthynas â’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Ni fydd pob hawl yn berthnasol – bydd yn dibynnu ar y sail gyfreithiol dros brosesu eich data.

  • Yr hawl i gael eich Hysbysu – mae gan unigolion yr hawl i gael eu hysbysu ynghylch yr arfer o gasglu a defnyddio eu data personol. Mae hyn yn ofyn tryloywder allweddol dan y GDPR
  • Yr hawl i gael Mynediad – mae gennych hawl i ofyn am gael mynediad at yr wybodaeth sydd gennym amdanoch, a chael copi o’r wybodaeth honno
  • Yr hawl i Gywiro – mae gennych yr hawl i ofyn i’ch gwybodaeth gael ei chywiro.
  • Yr hawl i Ddileu – nid yw hon yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Yr hawl i Gludadwyedd Data – dim ond i brosesu data trwy ddulliau awtomataidd y mae’r hawl hon yn berthnasol
  • Efallai y bydd yr hawl i Gyfyngu ar brosesu yn berthnasol – gallwch ofyn i ni roi’r gorau i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, efallai y bydd hyn yn arwain at oedi neu’n ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais, ond efallai y bydd yn ofynnol i ni gadw neu brosesu gwybodaeth er mwyn cydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i Wrthwynebu – nid yw hon yn hawl absoliwt a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Os dymunwch dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw adeg, cysylltwch â broadband@pembrokeshire.gov.uk
6. Cwynion neu Ymholiadau

Mae Cyngor Sir Penfro yn gwneud ei orau i gyrraedd y safonau uchaf wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Oherwydd hyn, rydym yn ystyried unrhyw gwynion a gawn o ddifrif. Rydym yn annog pobl i roi gwybod i ni os ydyn nhw’n credu bod ein dull o gasglu neu ddefnyddio gwybodaeth yn annheg, yn gamarweiniol neu’n amhriodol.

Nid yw’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys manylion cynhwysfawr ynghylch pob agwedd ar ein harfer o gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, rydym yn fodlon cynnig gwybodaeth neu esboniad ychwanegol os bydd angen. Dylid anfon pob cais o’r fath i’r cyfeiriad isod:

Jo Hendy, Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Penfro
Neuadd y Sir
Hwlffordd
SA61 1TP

E-bost: dataprotection@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 764551

Os hoffech wneud cwyn ynglŷn â’r ffordd yr ydym wedi prosesu eich gwybodaeth bersonol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff statudol sy’n goruchwylio cyfraith diogelu data:

Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF

E-bost: caseworker@ico.org.uk

Ffôn: 0303 123 1113

7. Newidiadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Caiff ein hysbysiad preifatrwydd ei adolygu’n rheolaidd.